from nicaragua to gaza at the eisteddfod

The Campaign is launching a new coffee in the Eisteddfod – Dark Roast, joining our popular Medium Roast.

tecafe_darkroast_label_front-001-001 (2)

The coffee is being launched on Tues, August 6, on our stand in the Llanelli Eisteddfod, number 609-610, at 11am.

On the same day, at 6pm, there will be an important protest on the Maes, to support the people of Gaza.

 

Gaza steddfod14a

 


o nicaragua i gaza yn y steddfod

Mae’r Ymgyrch yn lansio coffi newydd yn y Steddfod – Rhost Tywyll, sy’n ymuno â’n Rhost Canolig poblogaidd.

tecafe_darkroast_label_front-001-001 (2)

Bydd y coffi yn cael ei lansio ar ddydd Mawrth, Awst 6, ar ein stondin yn Steddfod Llanelli, rhif 609-610, am 11yb.

Ar yr un diwrnod, ar ddiwedd y prynhawn, mae protest pwysig ar y Maes, i gefnogi pobl Gaza.

Gaza steddfod14a

 


13eg dirprwyaeth i nicaragua yn 2015

Y ddirprwyaeth Cymreig nesaf i Nicaragua – wythnos olaf mis Ionawr ac wythnos cyntag mis Chwefror 2015

Byddwch yn treulio eich tair noson gyntaf yn y brifddinas, Managua, dinas fywiog,ddi-drefn ac ar chwâl. Cewch siawns i setlo, cyfarfod trefnwyr cymunedol, mudiadau cymdeithasol, undebau llafur, i arfer efo cyflymder y wlad.Yna, byddwch yn hedfan i Bluefields, ar arfordir Caribi Nicaragua. Mae’n fyd gwahanol i Managua, yn llawer tlotach, ond yn llawer mwy hamddenol. Fe glywch Creole a Spaeneg ar y strydoedd, gyda pheth Rama a Miskitu o bryd i’w gilydd.

new jerusalem meeting

Pum noson fyddwch chi yn eu treulio yma, a chewch y siawns i fynd mewn cwch drwy fforest  law i Pearl Lagoon. Cewch weld sut mae pobl yr Arfordir yn brwydro dros eu hieithoedd a hunan lywodraeth, yn ogystal ag ymweld â phrosiectau cerdd a bwyd arloesol.

Nôl i Managua wedyn am noson, ac yna i Granada i ymlacio! Granada yw dinas harddaf Nicaragua, gyda phensaerniaeth eithriadol ar lannau Llyn Cocibolca, ac yng nghysgod llosgfynydd Mombacho. Bydd cyfle hefyd i fwynhau golygfeydd trawiadol lagŵn folcanaidd Apoyo. Am y tro cyntaf hefyd byddwn ni’n ymweld a’r pentref gwledig El Largatillo, i aros gyda theuluoedd.

pix: david mcknight

Y costau am y bythefnos gyfan yw £600, sydd yn cynnwys llety, bwyd a theithio o fewn y wlad. Bydd angen talu am y tocyn awyren hefyd. Ar hyn o bryd, maent rhwng £600 a £700, a gallwn helpu i’w archebu.

Byddwn hefyd yn trefnu dydd paratoi i’r grŵp cyn y daith. Bydd hyn o gymorth i chi gael y budd mwyaf o’r ymweliad. ¡ Buen viaje!

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ymgyrch Gefnogi Nicaragua Cymru, Tŷ Iorwerth, Ffordd y Sir, Penygroes, Gwynedd. LL54 6ES. 01286 882 134, benica@gn.apc.org


13th welsh delegation to nicaragua in 2015

Next Welsh Delegation to Nicaragua – last week of January and first week of February 2015

You will spend the first three nights in the capital, Managua, a sprawling, chaotic, vibrant city. You will have the chance to settle in, meet with community organisations, social movements and trade unions, to get up to speed on the country.

Then you fly to Bluefields, on Nicaragua’s Caribbean Coast. It’s a world away from Managua, much poorer but much more laid back. You’ll hear Creole and Spanish on the streets, with a smattering of Rama and Miskitu.

Llunie Nicaragua 083

You’ll spend five nights there, including a boat ride through the rainforest up to Pearl Lagoon. You’ll be able to see how people on the Coast are struggling for autonomy and their languages, as well as taking in visits to innovative community music and food projects.

Then it’s back to Managua for a night, and finally on to Granada for some relaxation. Granada is Nicaragua’s most picturesque city, with outstanding architecture, on the shores of Lake Cocibolca, and in the shadow of the Mombacho Volcano. There will also be a chance to take in the spectacular view of the Apoyo volcanic lagoon. Also, for the first time, we will be visiting the rural community of El Largatillo, to stay with families for several nights.

photo

Your total cost for the fortnight is £600, which includes all accommodation, food and travel within the country. You will also have to pay your airfare – currently tickets are between £600 and £700, and we can help with booking.

We will also be organising a preparation day for the group before the journey. This will help you get the most out of your visit. ¡Buen viaje!

For more information contact Wales Nicaragua Solidarity Campaign, Tŷ Iorwerth, Ffordd y Sir, Penygroes, Gwynedd LL54 6ES. 01286 882134, benica@gn.apc.org