nicaragua: undod mewn amrywiaeth

Fis diwethaf roedd Haf Elgar yn rhan o ddirprwyaeth o ddeg a ymwelodd â Nicaragua am bythefnos. Yma mae’n son am ei phrofiadau yn rhanbarth Arfordir y Caribï (o Golwg 360 – gweler fan hyn am yr erthygl ar eu gwefan).

Ers ugain mlynedd mae dirprwyaethau o Gymru wedi bod yn ymweld a Nicaragua yng Nghanolbarth America fel rhan o Ymgyrch Cefnogi Nicaragua, i ddangos cefnogaeth i bobl y wlad wrth iddi ddatblygu, cefnogi prosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol a dysgu rhagor am wleidyddiaeth a diwylliant y wlad aml-ethnig, gymleth a beiddgar hon.

IMAG1060

Llun: Haf Elgar

Mae cyrraedd tref Bluefields fel camu i fyd gwahanol – hyd yn oed o’i gymharu a’r brifddinas Managua lle cyrhaeddon ni ychydig ddyddiad gynt. Y golau, lliwiau a gwres sy’n taro gynta wrth gamu oddi ar yr awyren bach simpsan a’n cludodd yno – lle lliwgar, llachar, clòs a hamddenol, yn llawn arogleon a sbwriel ar hyd y strydoedd ond y bobl yn hynod gyfeillgar gyda phob un yn ein cyfarch gyda ‘Buenos Dias’ neu ‘Mornin’ yn y Creole.

Llain hir ar hyd ochr dwyreiniol Nicaragua yw Arfordir y Caribï, ac er nad yw’r wlad yn fawr, mae’r fforest trofannol rhwng y gorllewin a’r dwyrain, a diffyg ffyrdd, wedi ei gadw’n rhanbarth ar wahân.

Mae’n frith o gymunedau aml-ethnig, gyda dylanwad Caribïaidd cryf a chymysgwch o bobloedd brodorol canolbarth America, disgynyddion Affricanaidd, a’r Mestizo sy’n fwyafrif poblogaeth Nicaragua. Dyma bobloedd – y Miskitu, Rama, Garifuna a Creole – gyda ieithoedd a thraddodiadau ei hunain o hyd.

Ac yn debyg i Gymru, mae hunaniath gref ei hun gan Arfordir y Caribï, a balchder o’u ymreolaeth, eu ieithoedd a’u diwylliant.

Dim ond ym 1987 y cydnabyddwyd pobloedd heblaw am y Mestizo gan gyfansoddiad Nicaragua, wedi canrif o goloneiddio, gorthrwm ac unbennaeth. Eglurodd Johnny Hodgson, ysgrifennydd gwleidyddol y blaid Sandinista ar yr arfordir, wrthom fel y trosglwyddwyd hawliau tir, addysg, ieithyddol ac adnoddau naturiol yn ôl i’r pobloedd brodorol yn raddol wedi hynny. A gosodwyd strwythurau cyfansoddiadol yn eu lle, gyda dau ranbarth gweinyddol yn ne a gogledd Arfordir y Caribï,  gyda seneddau rhanbarthol.

Mae yno hefyd dlodi enbyd, a diffyg datblygiad sylfaenol tu allan i’r trefi, gydag ymdrechion mawr i ledaenu isadeiledd trydan a dŵr, ac ynni solar yn cael ei ddefnyddio mewn rhai cymunedau pellennig.

IMAG1280

Llun: Haf Elgar

Ym mudiad hawliau dynol CEDEHCA cwrddon ni a Gorman, gwr ifanc sy’n rhedeg prosiectau ieuenctid. Dywedodd wrthom am y problemau sy’n gwynebu pobl ifanc; miloedd ohonynt heb dystystrifau geni oherwydd cost ac anllythrennedd. Heb swyddi ers degawdau a heb obaith ar y gorwel mae trais yn y cartref yn broblem fawr, yr arian mawr o smyglo cyffuriau yn denu a phuteindra’n cael ei orfodi ar rhai. Mae diniweidrwydd plentyndod yn fregus a’n dod i ben yn ifanc iawn yma.

Ond nid stori o anobaith na hunan-dosturi oedd gan Gorman. Gyda gwen ar ei wyneb a doethineb hen ddyn yn ei lygaid roedd e’n obeithiol am ddyfodol yr arfordir a’i phobl ifanc.

Gwelir ymreolaeth gwleidyddol ac ymreolaeth personol yn mynd law yn llaw, a bod rhaid datblygu hunan-hyder a rhoi cyfleon i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw chwarae rôl positif yn eu cymunedau ac yn natblygiad eu rhanbarth.

Ac mae yna obaith i bobl ifanc, fel welson ni yn stiwdio newydd ‘System Sain Bluefields’ (gweler fan hyn am fwy o wybodaeth).

Mae’r ysgol gerddoriaeth yma’n cynnig sgiliau i bobl difreintiedig ifanc yr ardal, rhai ohonynt wedi bod yn y carchar neu ar gyffuriau, i hyfforddi fel cerddorion a thechnegwyr cerddorol. Mae nhw’n cael cyfle i recordio a chynhyrchu caneuon ei hunain, gyda chymorth hen gerddorion traddodiadol yr ardal a chynhyrchwyr profiadol. Fel rhan o brosiect i ddiogelu traddodiadau Creole a brodorol y rhanbarth mae rhai o hen arwyr cerddorol yr ardal wedi cael eu recordio am y tro cyntaf yno, ac mae’n orsaf radio cymunedol.

Bu un o fentoriaid y prosiect, Rocco, yn byw yn Merthyr am gyfnod yn y 90au, gan chwarae miwsic reggae yn nhafarndau’r de, felly braf oedd cael ein cyfarch yn Gymraeg!

Ac yn anrheg fe gyflwynon ni ddwsin o gopiau o’r CD Cymraeg aml-gyfranog ‘Deuddeg’ i’r ysgol, i ddangos bywiogrwydd y sîn yn ein iaith brodorol ni, a chael cymharu’r seiniau tra gwahanol.

Mae sŵn Bluefields – y rhythmau reggae, yn fwy diweddar wedi’w gyfuno a rapio, yn llifo trwy‘r dref, a blas caribïaidd cnau coco a banana i’w groesawi ar ôl ffa a reis beunyddiol.

Wrth i ni adael Bluefields fe ddaeth y glaw trofannol yn sydyn, a’r dilyw yn fyddarol ar y toeau tun. Yn lle’r llwch a gwres daw’r glaw ac arogl pridd a bywyd newydd i’r hen dre, a’n gadael gyda gobaith fod Bluefields yn glasu.


soy puro pinolero

Llunie Nicaragua 178

Pedro Haslam. Pic: Sioned Haf

The Pinolillo drinks came in on trays. “Don’t expect coca-cola here,” said Pedro Haslam, in charge of the Ministry of Families, Community, Co-operatives and the Associative Economy. Pinolillo is the maize based national drink, so central to Nicaraguan culture that Nicaraguans are often described (and describe themselves) as Pinoleros.

At least in this Ministry we don’t eat junk food,” said Pedro. “It’s all produced by local families. We are working very hard to try to create a market for their products. I worked at the start of fair trade. People in Northen countries – the UK, Germany, US, bought the coffee just because it came from a poor person. But we realised it needed to come from a poor person and also be of quality.”

Co-operatives are one of the mainstays of the economy that the Sandinistas want to develop. Sandino formed a co-op in Wiwili, which was destroyed immediately after his assassination. In the same way, in the 1980s during the revolution, co-operatives again came under attack. 3,000 were created, as 2 million hectares were distributed as part of the agrarian reform. They were targeted by the Contra, the counter-revolutionaries, and many paid with their lives to defend the co-ops.

In the 1990s, with the onslaught of neo-liberalism, again the co-ops were attacked, this time both physically and economically. “There was the counter agrarian reform,” said Pedro. “Former demobilised soldiers and contras were used to invade the land along with the old landowners. Many co-ops started to share their land with the enemy. In some ways that saved the process. None the less half the land was lost. During 1990 to 1997 there was a lot of violence, murder, kidnaps. But many resisted and survived. Through a lot of creativity the co-ops had a re-birth.”

Pedro was part of this re-birth. He helped set up one of Nicaragua’s biggest coffee co-operatives, CECOCAFEN. Recently he has been working with people like NSC member Nick Hoskyns, to spread the lessons not only to Nicaraguan co-operatives, but also to other ALBA countries like Venezuela and Cuba.

The lessons that people like Pedro share were won the hard way. “Many co-ops which had common land started de-centralising because they couldn’t get loans or technical help. So private banks and MNCs came back. McDonalds showed up. They substituted for our historical and cultural foods – oil, rice, corn from other countries. In our national market the prices were plummeting. Many tried to export in order to survive. That’s when co-ops like CECOCAFEN started to appear.

In the small co-ops they divided the farms up into private lots. It happened naturally. Families tried to survive on that piece. Many of the co-ops who tried to work in a unified manner fell apart. So now we have co-ops who no longer have land, but provide services.”

Pedro acknowledges that the co-ops had no choice. “Some might say this is a retrograde step. But really it needed to happen for people to survive. We’ve tried to maintain that collective spirit. Together people can fight for the things in their daily lives. It’s part of our mission in this Ministry. Our principle aim is to work with all the small economies in these areas, not just rural but urban. There’s many national services which are organised collectively – transport, bananas, artisan crafts, woodwork, textile industry (though not the maquilas), and in food production. People are getting together in order to provide services, get technical assistance, access financing and marketing. In 2007 when we returned to power there was still 1,700 co-ops on the books . Our goal has been to create more. Today there are 4,500.”

The Ministry’s vision doesn’t just extend to the legally registered co-operatives, which explains another part of the its title: “There’s other forms of organisation, which we call ‘associative’. One example is the production bonus for Zero Hunger. 100,000 women are organised into nuclei – 50 women in each. The Government gives them a package, targeted at the poorest families. All these women are encouraged to create savings groups. They have already saved C$80 million.”

IMAG1817

Pic: Haf Elgar

There is a project with beans and rice producers who work on plots of less than 2 hectares. 30,000 of these workers are organised into solidarity groups of ten families. We work with these nucleii for financing.”

We have another programme – patios saludable -healthy backyards. It was set up last year. It’s urban agriculture. It’s more than just planting. We are trying to transmit values – people who live in the city can provide part of their food. We are working with 70,000 people, especially in Managua. We’re hoping to strengthen that this year”

For the Ministry the work is as much cultural as economic. “We have a programme which promotes national products,” said Pedro. “It all has to do with Nicaraguan culture – both consumption and production. Crafts, woodcrafts, food, drinks, clothes. We are promoting ‘comercio justo‘ (as fair trade is known in Latin America). We are working internationally with the ALBA, fair trade between countries. But also talking about fair trade with ourselves. We have a national Fairs programme. Just this year we’ve been organising Fairs as a Ministry. We are going to be promoting 1,300 Fairs – day markets – in each of the municipalities. Every municipality should be holding one fair a month, and all the co-ops should be invited. We are also careful that a solidarity price is always kept – at the national price or below.”

Pedro wraps up the meeting. “One last thing. Perhaps it’s where I should have started. Your presence is very important. Go to the Campo. Learn directly from families. Since 2007 you will have been in the new Nicaragua.” And how was the Pinolillo? Delicious.

Ben Gregory is a member of the Wales Nicaragua Solidarity Campaign, and was part of the 13th Welsh delegation to Nicaragua in February.


gweithredu yn cristnogol yn nicaragua

Llunie Nicaragua 009

Llun: Sioned Haf

O’r Herald Cymraeg, Mawrth 6ed, gan Angharad Tomos

Wyddwn i ddim i lle roedden ni’n mynd. Yn griw o naw o sardins yng nghefn y tryc agored, roedden ni wedi llosgi yn yr haul yn ystod y siwrne deirawr. Dyma’r antur olaf ar ein taith yn Nicaragua, o’r brifddinas Managua i berfeddion Matagalpa, a chymuned wledig Santa Luz.

Ydi, mae’r priffyrdd wedi gwella ers i’r Sandinistiaid ddod yn ôl i rym, ond mwya sydyn, mae’r tryc yn troi i fyny rhyw lwybr, ac mae hi wedi canu ar y sardîns wedyn. Nôl a mlaen, nôl a mlaen, a rhaid ymddiried yn llwyr i allu Jaime i lywio’r cerbyd. Un cam gwag, a byddwn yn rowlio lawr y llechwedd wrth y lôn gul. “Does dim synnwyr yn hyn” meddyliaf. Gobeithiwn y byddai pethau wedi gwella fwy ers 2002. Ond ar hyd y brif ffordd i Matagalpa, tai rhacs oedd i’w gweld. Tase nhw yng Nghymru, fyddai pobl ddim yn ystyried yn ffit fel cwt glo. Eto, mae teuluoedd cyfain yn byw yn rhain, ac yn crafu rhyw fath o fywoliaeth.

Mae wedi hen nosi wedi inni gyrraedd ein llety yn Santa Luz. Mae pryd yn ein haros, ac mae aelodau Accion Medica Cristiana (partner i Gymorth Cristnogol a Tearfund) wedi paratoi pryd o fwyd inni. Wedi dweud gras, fe’i llowciwn yn ddiolchgar cyn swatio dan y rhwyd mosgito, a chysgu. Ceiliog sy’n ein deffro yn blygeiniol, ac ymhen dim, rydym yn ôl yn teithio ymhellach i’r berfeddwlad. Ymweld â Banc Tir a wnawn, un o gynlluniau Accion Medica Crisitiana. I alluogi pobl i gychwyn ffermio yn y rhan hon o’r wlad, mae modd cael benthyciad tir, ac mae hyn o gymorth mawr i’r gymuned.

Llunie Nicaragua 247

Llun: Sioned Haf

Yn yr ail fentr gyd weithredol yn El Progresso, cawn gyfle i eistedd i lawr gyda y gymuned i fwyta cinio. Mewn lle mor ddiarffordd, byddai bechdan wedi gwneud y tro, ond maent yn darparu pryd go iawn. Caiff bawb blat, ac wedi aros mewn rhes, cawn gyfran o’r tatws blasus sydd wedi ei coginio mewn crochan ar dân agored. Cawn glywed am y fendith y maent wedi ei derbyn fel cymuned, ac rwy’n syllu ac yn gwrando arnynt mewn rhyfeddod. Byddai Waldo wedi bod wrth ei fodd yma. Pobl dduwiol ydynt, pobl sy’n gweithio’n galed ar y tir, ac yn cymuno gyda ni. Mae y syniad o gymundeb yn bwysig iddynt, ac mae’r ymweliad yn dod i ben gyda’r criw o Gymru yn canu emyn. Do, teimlais frawdoliaeth….

Dros y blynyddoedd, mae pobl Nicaragua wedi dioddef yn aruthrol, ond maent wedi gallu ail-afael yn eu bywydau, a pharhau i frwydro. Un brofedigaeth lem a gefais yn fy mywyd, a rydw i wedi chwerwi tu hwnt i bob rheswm. Mae’r rhain wedi cael bywyd o brofedigaethau, ac wedi llwyddo i beidio chwerwi. Mae olion y colledion i’w gweld, ac mae’r galar yn fythol bresennol, ond gallant weld y tu hwnt. Falle mai’r hyn wnaeth yr argraff ddyfnaf arnaf oedd eu gallu i weld tu hwnt i helbulon bob dydd, a gallu canolbwyntio ar y gobaith y bydd yfory gwell. Dwi’n dod yn fwy fwy argyhoeddiedig mai eu ffydd sydd wrth wraidd hyn.

Ddaru’r Sandinistiaid geisio egluro eu sosialaeth drwy gredo Marcsaidd, ond ddaru’r peth ddim cydio. O ganlyniad, dyma nhw’n rhoi cynnig ar rywbeth yr oedd y bobl yn ei ddeall, sef ei Cristnogaeth. Cyfiawnder i’r tlodion, brawdgarwch a chariad – o’i egluro fel hyn, gall y bobl dderbyn telerau’r Llywodraeth Sandinistaidd. Bellach, ar faneri Ortega, mae’r geiriau Cristnogaeth, Sosialaeth a Solidariaeth.

Yn yr wythnos y rhoddodd y Pab Benedict y ffidil yn y to ar sefydliad a gyhuddwyd o fod yn llygredig ac anfoesol, falle nad oes gan Babyddiaeth orthodocs fawr o apêl bellach. Ymysg y rhai a gafodd ei diarddel gan y Fatican y mae rhai o’r eneidiau mwyaf didwyll. Un o’r rhai hynny a gawsom eu cyfarfod oedd y Tad Miguel d’Escoto. Fo oedd un o sylfaenwyr diwinyddiaeth rhyddhad a aeth yn ôl at wreiddiau’r Efengyl, a darllen y Beibl drwy lygaid y tlawd.

Llunie Nicaragua 161

Llun: Sioned Haf

Falle mai dyna’r hyn sy’n aros fwyaf gyda mi o’r ymweliad hon â Nicaragua, sef pwysigrwydd cymundeb. Y profiad arbennig o eistedd lawr a rhannu bara a phrofiadau gyda pobl gyffredin, hynod o anghyffredin, a dysgu o hynny.


crefydd ag ernesto cardenal

 

Cwrddodd Gareth Miles ag Ernesto Cardenal o Nicaragua yn 2000. Mae erthygl am Cardenal a’i farddoniaeth wedi ymddangos ym Barn y mis hwn. Diolch i Gareth a Barn am roi eu caniatad i ddefnyddio’r erthygl ar flog yr Ymgyrch. I dansgrifio i Barn, gweler fan hyn.

Llunie Nicaragua 327

Cyflwynwyd Gwyl Barddoniaeth Rhyngwladol Granada i Ernesto Cardenal eleni. Cwrddodd Angharad Tomos ag Ernesto yn 2001.

CREFYDDA gan Gareth Miles, Barn, Rhif 602, Mawrth 2013

Rydw i newydd glywed fod Capel (M.C.) Rhydyclafdy wedi cau.

Mae carreg farch yn ei libart ac arni lechen yn datgan: ODDIAR Y GARREG HON GERLLAW EGLWYS Y PLWYF HWN Y TRADDODWYD Y BREGETH GYNTAF YN LLEYN GAN HOWEL HARRIS, AR EI YMWELIAD CYNTAF A’R WLAD ODDEUTU 2 O’R GLOCH DYDD LLUN CHWEFROR  2fed 1741. EI DESTUN YDOEDD “DELED DY DEYRNAS.”

Eglwys Llanfihangel Bachellaeth yw’r un y cyfeirir ati. Dywedir yn lleol nad y garreg ger Capel Rhydyclafdy yw’r un y safodd Harris arni a bod yr un iawn yn rhan o wal ysgubor un o ffermydd yr ardal.

Yng Nhapel Rhydyclafdy, nos Sul, Tachwedd 29ain, 1958, y traddododd Tom Nefyn ei bregeth olaf. Ymhen rhyw hanner awr wedi’r oedfa, wrth swpera yn ‘Isallt’, cartref Mrs Annie Evans, gweddw un o’r blaenoriaid, rhoddodd ei ben ar y bwrdd a bu farw.

Yn yr un addoldy, ddydd Iau, Mawrth 30ain 1967, y priodwyd fy nghymar a fi.

Cefais fy magu ychydig lathenni o Gapel Croes-y-waen (M.C.), Waunfawr; yn ei gysgod yn llythrennol, ac yn ei gysgod a’i lewych, yn ffigurol. Efallai na fuaswn yn Gymro oni bai am ei ddylanwad. Yn sicr ddigon ni fuaswn yn awdur. Cymerwn arnaf fod yn gas gen i, fel y rhelyw o’m cyfoedion, dreulio  pnawniau Sadwrn yn y Festri, yn ateb cwestiynau Arholiadau Ysgrifenedig Henaduriaeth Arfon ar Actau’r Apostolion a dysgu talpiau o’r Ysgrythyr ar gof ar gyfer yr Arholiadau Llafar ond roeddwn wrth fy modd. Swynid fi gan geinder a pherseinedd geiriau fel Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist, pa beth yw dyn i ti i’w gofio a mab dyn i ti ymweled ag ef? Tybiwn y datgelid eu hystyr imi pan fyddwn yn oedolyn.

Cofiaf ddychryn fy hun, a minnau’n saith neu wyth mlwydd oed, trwy feddwl: ‘Dydw i ddim yn coelio mewn tylwyth teg. Dydw i ddim yn coelio yn Santa Clôs…A’r peth nesa, fyddi di ddim yn credu yn Nuw!’  Gwadais y cyhuddiad yn ffyrnig gyhyd ag y gallwn ond yn anffyddiwr y derbyniwyd fi’n gyflawn aelod a minnau’n bedair ar ddeg a rhoddais y gorau i ‘fynd i’r Capal’ rhyw ddwy flynedd yn ddiweddarach. Serch hynny, byddai’n chwith gen i glywed fod Capel Croes-y-waen wedi cau.

Dywedodd y beirniad llenyddol Marcsaidd, Terry Eagleton, un o Wyddelod Lerpwl, ei fod yn mynychu’r Offeren o bryd i’w gilydd ‘er mwyn cadw blaen fy nhroed yn y gwareiddiad y ces i fy magu ynddo’. Nid oes gyfleustra cyffelyb ar gael ar gyfer rhywun fel fi:

Oedfa fore Sul a chynulleidfa o hanner cant, yn aelodau o’r dosbarth canol proffesiynol, y werin weithiol ac ambell ffermwr a thyddynwr, mewn addoldy a lle ynddo i drichant. Amrediad cyflawn o oedrannau  –  plant, pobol ifainc, canol-oed a henoed. Pregeth sych, hirfaith, annealladwy i beri i’r gwrandawr  synfyfyrio neu bendwmpian. Gweddi i ysgogi cwestiynau  metaffysegol: ‘Efo pwy mae o’n meddwl ei fod o’n siarad? Fo’i hun? Ni? Os oes’na Dduw, sut mae O’n medru delio hefo pob un o’r miliyna o weddia fydd O’n glwad bob bora Sul? Sgynno Fo filoedd ar filoedd o angylion, fel clarcod, i’w helpu O?’ Emyn fywiog wedyn, i’n deffro ni cyn mynd am dro hamddenol hyd at  Allt-y-gro, ar gwr y pentref, efo’n tadau a gwrywod eraill, cyn cinio.

Fyddai dogmatiaeth, dwyster a phiwritaniaeth y ffwndamentaliaid Calfinaidd, brwdfrydedd yr ‘Happy-Clappies’, na rhyddfrydiaeth sentimental eglwysi a adfywiwyd gan genedlaetholwyr dosbarth-cannol ddim yn gneud y tro.

Ond petai Pontypridd yn nes at Managua, mae’n debyg y byddwn yn picio  draw ambell Sul i fod yn bresennol mewn offeren a gwasanaeth yng ngofal y Tad Ernesto Cardenal, offeiriad, cerflynydd, cyfieithydd, bardd cyfoes enwocaf De Amerig ac un o oreuon y cyfandir hwnnw. Cardenal oedd y Gweinidog dros Ddiwylliant yn llywodraeth Sandinistaidd gyntaf Nicaragua, rhwng 1979 a 1987, ac fe’i ceryddwyd am hynny yn llym ac yn gyhoeddus, ar darmac maes Awyr Managua gan y Pab Ioan-Pawl II pan ymwelodd y pontiff adweithiol hwnnw â Nicaragua. Cyhudda Ernesto Cardenal ‘Wojtyla’, fel y geilw ef, ei olynydd ‘Ratzinger’ a’r rhan fwyaf o’u rhagflaenwyr o fradychu Cristnogaeth.

Petawn i mor ffodus â chael gwrando ar bregeth gan yr offeiriad di-wardd hwn, efallai y clywwn eiriau tebyg i’r rhai a lefarodd mewn cyfweliad a gyhoeddwyd  yn y cylchgrawn El País Semanal (01.07.12):

I mi, yr un peth ydi Chwyldro, Duw a barddoniaeth.Y Chwyldro ydi’r un a broffwydodd Iesu. Heddiw, mae rhai diwynyddion yn datgan fod teyrnas Dduw, fel y proffwydodd Iesu hi, yn debyg iawn i’r syniad cyfoes am chwyldro, a dyna’r gwir. Chwyldro tanseiliol (subversivo) a arweiniodd, yn achos Iesu, at ei farwolaeth. Mae hefyd yn golygu newid gwleidyddol a chymdeithasol…Yr un peth yw’r gymdeithas gomiwnyddol, ddi-ddosbarth, berffaith sydd i ddod â theyrnas Dduw ar y ddaear… Mae pobol ifainc heddiw’n datgan fod ‘byd arall yn bosib’ ac rydw innau’n meddwl hynny, fel y gwnâi Iesu. Mae byd arall yn bosib ac yn angenrheidiol ac mae Eglwys arall yn bosib. Â rhai cyn belled â dweud fod Duw arall yn bosib…Rhoddodd Duw y gorau i fod yn Dduw ers peth amser. Aeth a’n gadael ni i newid pethau drosom ni’n hunain. Mae hynny’n esbonio’r Holocost a chamweddau eraill yr hil ddynol.

Pan ymwelais â Nicaragua gyda Chymdeithas Cymru-Nicaragua rai blynyddoedd yn  ôl, cefais fynd i gyfarfod o Undeb Ysgrifenwyr y wlad honno a chyfarfod Ernesto Cardenal. Braint a phleser, yn wir, oedd dangos iddo, yn un o gyhoeddiadau Cymorth Cristnogol, fy nhrosiad o un o’i gerddi ac o ddarllen hwnnw iddo:

 

          Y BUMED SALM

 

Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd,

erglyw fy ngriddfannau.

Gwrando lef fy ngwaedd

oblegid nid wyt ti,Dduw,

yn gyfaill unbenaethiaid,

nac yn cymeradwyo eu polisïau,

nac yn cydfynd â’u propaganda,

nac yn cymdeithasu â gangsteriaid.

 

Nid oes uniondeb yn eu hareithiau

nac yn eu datganiadau i’r wasg.

Soniant am heddwch yn eu hareithiau

Tra’n cynhyrchu rhagor o arfau.

Soniant am heddwch mewn cynadleddau

tra’n dirgel ymarfogi.

 

Eu darllediadau celwyddog sy’n rhuo drwy y nos,

eu swyddfeydd sy’n llawn cynllwynion troseddol

ac ystrywiau camweddus

ond ti a’m gwaredi rhag eu drwg-weithredoedd.

Llefarant megis peirian-ddrylliau.

Eu tafodau llachar, bidogau ydynt.

 

Cystwya hwy,o Dduw.

Difetha eu polisïau.

Drysa eu memoranda.

Llesteiria eu cynlluniau.

 

Pan ddiasbedain y seiren rybudd

byddi di gyda mi.

Ti fydd fy noddfa pan ffrwydra’r bom.

Canys ti, Arglwydd, wyt yn bendithio’r cyfiawn

nad yw’n coelio celwyddau eu hysbysebion,

eu cysylltiadau cyhoeddus

a’u hymgyrchoedd politicaidd.

 charedigrwydd yr amgylchyni di ef

megis â thanciau rhyfel.

Cefais  gan y bardd rodd o gasgliad o gerddi gan rai o feirdd Nicaragua a olygwyd ganddo ef ei hun a chyflwyniad amhrisiadwy ar y flaen-ddalen: Para G.M.,fraternalmente. Ernesto Cardenal.

 


¡hugo chavez presente!

Bu farw Hugo Chavez. Roedd yr Arlywydd Chavez yn gawr ar y llwyfan rhyngwladol, yn helpu i greu dynamig newydd yn America Ladin, gyda’r cyfandir yn darganfod ei hyder, ac yn chwalu unwaith ac am byth rym yr Unol Dalieithau yno. Ond yn fwy na hynny, roedd o blaid y tlawd yn Venezuela, yn defnyddio adnoddau’r wlad i wella bywydau pobl gyffredin, ac yn wahanol i’w wrthwynebiad, roedd yn ddemocrat a enillodd dro ar ol tro mewn etholiadau teg a thryloyw.

Gwnaeth aelod yr Ymgyrch gyfweliad gyda Radio Cymru, yn talu teyrnged i waith Arlwyddd Chavez:

Cynigodd Ymgyrch Cefnogi Venezuela (Venezuela Solidairty Campaign) ei deyrnged ei hun bore’ma:

“Hugo Rafael Chavez Frias, President of Venezuela, died on March 5th at 4:25 hrs (local time) after a long and hard battle against cancer. He was 58 years old.

He led the progressive transformation of Venezuela by lifting millions of its citizens from poverty – standing against social exclusion, marginalisation and institutional repression – thereby restoring to them a long-overdue dignity.

Under President Chavez’s leadership, his government’s policies improved the life of ordinary Venezuelans as no other government had ever done in the history of that South American nation.

Chavez also played a leading role in the transformation of Latin America into a progressive continent, which in the 21st century is collectively affirming the sovereignty of the nation states that make it up, and where, in different ways and through nationally-specific routes, they have been attempting to build a better world.

Hugo Chavez will continue to symbolise, for decades to come, the aspirations of dignity, sovereignty, justice and a better life as fully empowered citizens, for people all around the world. 

He showed that a better world could be constructed.

Our hearts go to his family, friends, comrades, the people of Venezuela, and the people of Latin America”.

I ddeall dylanwad Chavez, darllenwch erthygl Seamus Milne yn y Guardian bythefnos yn ol (gweler fan hyn). Heb Chavez, ni fyddai’r gwelliannau, yn economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol mae Milne yn eu disgrifio, wedi digwydd. Mae’n debyg y bydd Chavez yn ymuno a’i harwr, Simon Bolivar, fel rhai o’r unigolion prin sydd wedi newid cyfeiriad cyfandir.

Mae teyrnged awr ar raglen diweddar Democracy Now! – gweler fan hyn.


¡hugo chavez presente!

Hugo Chavez is dead. President Chavez was a giant on the international stage, helping create a new dynamic in Latin America, with the continent discovering its self-confidence, and breaking with the influence of the United States in the region. But more than that, in Venezuela he was on the side of the poor, using the country’s resources to improve the lives of ordinary people, and unlike the opposition, a democrat who won time after time in transparent and fair elections.

A member of the Campaign, Ben Gregory, paid tribute to President Chavez on Radio Cymru this morning:

The Venezuela Solidarity Campaign offered their own tribute to Chavez:

“Hugo Rafael Chavez Frias, President of Venezuela, died on March 5th at 4:25 hrs (local time) after a long and hard battle against cancer. He was 58 years old.

He led the progressive transformation of Venezuela by lifting millions of its citizens from poverty – standing against social exclusion, marginalisation and institutional repression – thereby restoring to them a long-overdue dignity.

Under President Chavez’s leadership, his government’s policies improved the life of ordinary Venezuelans as no other government had ever done in the history of that South American nation.

Chavez also played a leading role in the transformation of Latin America into a progressive continent, which in the 21st century is collectively affirming the sovereignty of the nation states that make it up, and where, in different ways and through nationally-specific routes, they have been attempting to build a better world.

Hugo Chavez will continue to symbolise, for decades to come, the aspirations of dignity, sovereignty, justice and a better life as fully empowered citizens, for people all around the world.

He showed that a better world could be constructed.

Our hearts go to his family, friends, comrades, the people of Venezuela, and the people of Latin America”.

To understand the influence of Chavez, read Seamus Milne’s article in the Guardian a fortnight ago (see here). Without Chavez, the economic, social and political improvements Milne describes wouldn’t have happened. It’s likely that Hugo Chavez will join his hero, Simon Bolivar, as one of those rare individuals who change the direction of a continent.

A full analysis of Hugo Chavez’s achievements, and the challenges now facing Venezuela, appeared this afternoon on Democracy Now! (listen here).


christianity, socialism, solidarity

Llunie Nicaragua 157

Father Miguel D’Escoto – photo: Sioned Haf

A lot of people followed the delegation’s visit on Twitter during the fortnight. Another way it received attention was an interview with one of the members of the delegation, Siân Howys, on the Bwrw Golwg programme last Sunday on Radio Cymru. She spoke about the meeting with Father Miguel D’Escoto, and the role, both positive and negative, of the church in Nicaragua. Here’s the interview:

The meeting with Father Miguel was one of the most interesting on the trip. He spoke about liberation theology, and the place of religion to liberate people instead of oppressing them, through discussing the Bible and Jesus’s life in the context of their own lives.

“My belief is based on my understanding of Jesus. Who was Jesus? He was a rebel. What was the cruxifiction? It was the death penalty, reserved for anti-imperialists.”

“We believe that the fundamental function of foreign mission is feedback. Mission is a two way street. You go to share and to listen. What is their situation? Mission is dialogue, and missionaries facilitate this exchange.”

Father Miguel D’Escoto, February 19 2013

Yesterday Pope Pope Benedict officially retired, and left the Vatican. As Cardinal Joseph Ratzinger, he worked closely with Pope John Paul II to undermine and root out liberation theology within the Catholic Church, including Nicaragua. Both Father Miguel D’Escoto and Father Ernesto Cardenal were targets when they were Ministers in the Sandinista Government in the 80s. Yesterday  Amy Goodman interviewed Matthew Fox on Democracy Now!. Fox is a former priest in the Catholic Church who was expelled by Cardinal Ratzinger for preaching liberation theology. In the interview he speaks about the development of liberation theology, and what was the response of the conservative establishment within the church to it.

http://www.democracynow.org/2013/2/28/fascism_in_the_church_ex_priest?autostart=true