dathlu a chofio

“I don’t believe in charity. I believe in solidarity. Charity is so vertical. It goes from the top to the bottom. Solidarity is horizontal. It respects the other person. I have a lot to learn from other people.”

-Eduardo Hughes Galeano (Uruguay/Cymru)

Neithiwr cynhaliodd Ymgyrch Gefnogi Nicaragua Cymru ddigwyddiad i ddathlu 25 mlynedd o ymgyrchu dros ac ochr yn ochr a phobl Nicaragua.

Clwyodd y gynulleidfa Carwyn Jones AC Prif Weinidog Cymru; dwy gyfeilles da i Nicaragua – ACau Leanne Wood (Plaid Cymru) a Julie Morgan (Plaid Lafur); aelodau’r Ymgyrch – David McKnight a Ben Gregory; gyda chaneuon o Rhyfel Cartref Sbaen a Nicaragua gan Gor Cochion Caerdydd, sydd wedi rhoi cefnogaeth ddi-baid i Nicaragua am chwarter canrif. Clywodd y gynulleidfa hefyd gan Chargee d’Affairs Nicaragua Guisell Morales-Echaverry, yn ymweld a’r Cynulliad am y tro cyntaf. Cadeiriodd Vaughan Gething AC y noson, a drefnwyd gan aelodau’r Ymgyrch, staff Vaughan a staff y Cynulliad.

“Work as if you live in the early years of a better nation.”

– Alasdair Gray (yr Alban)

24 awr ar ol y dathliad, dysgodd yr Ymgyrch am farwolaeth Sandra Thomas yn oriau cynnar bore dydd Iau. Roedd Sandra fel craig mewn sawl mudiad gwleidyddol, ac roedd hi un o’r sylfaenwyr Grwp Cefnogi Nicaragua Merthyr a’r Ymgyrch Gymreig. Yn fwy na hyn roedd hi’n hwyl, hael a heulog, y cynrychiolydd gorau o beth ddylai ymgyrchu fod. Rydym yn meddwl am ei gwr, Gwyn, a merch Bethan. Sandra Thomas.¡Presente!