ymweliad fatima ismael, SOPPEXCCA

ftima (2)

Dydd Llun a dydd Mawrth nesa (Mehefin 29/30), bydd Fatima Ismael, pennaeth y co-op coffi, SOPPEXCCA, yn ymweld â Chaerdydd, fel rhan o’i hymweliad â Phrydain. Bydd yn cyfarfod cynrychiolwyr o Masnach Deg Cymru, Prif Weithredwr Canolfan Gyd-weithredol Cymru, ymgyrchwyr masnach deg yn ogystal ag ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol a siop masnach deg.

Ym mis Chwefror, aeth aelodau o NSC Cymru i ymweld â SOPPEXCCA, sydd yn darparu coffi i frand yr ymgyrch, tecafé. Cawsant gyfle i siarad efo Fatima ar y daith. Eglurodd Fatima am y budd gaiff gwragedd o’r coffi a’r premiwm llafur di-dâl unigryw, gan bwysleisio pam mae masnach deg cyn bwysiced ag erioed.

Sut mae’r premiwm am lafur di-dâl ym mhris tecafé yn fanteisiol i ferched?

Mae’r premiwm am lafur di-dâl wedi ein galluogi i fuddsoddi yn y prosesau, a chodi ymwybyddiaeth ymysg merched sy’n gweithio gyda’r co-op. Rydym hefyd wedi cefnogi co-op o weithwyr merched sydd heb dir, felly yr unig ddewis iddynt hwy yw gweithio yn y felin sych lle mae’r prosesu coffi yn digwydd. Gan nad oes ganddynt dir i dyfu cynnyrch, eu hunig ddewis yw gwerthu eu llafur. Mae’r co-op merched yma yn rhedeg siop sydd yn cadw nwyddau hanfodol gaiff ei gwerthu i aelodau am brisiau rhatach. Mae hefyd yn gofalu am gynllun cynilo ar gyfer merched. Mae UCA SOPPEXCA , efo premiwm am lafur di-dâl, yn cefnogi a chryfhau y co-op efo’i weithgareddau.

Pam ydych chi’n credu ei bod yn bwysig cydnabod gwaith di-dâl merched. Pam ydych chi’n credu y dylai prynwyr dalu premiwm ychwanegol tuag at bris coffi (masnach deg)?

Wel, mae’r premiwm gaiff ei godi ar goffi tecafé yn gymorth i wneud iawn am lafur di-dâl merched, ac mae cysyniad y premiwm hwn yn rhywbeth ddylid ei hybu. Rydym yn cadarnhau hawliau merched. Am genedlaethau, rydym wedi cael ein gwthio i’r neilltu, ac mae ein gwaith wedi ei iselhau yn y fasnach goffi a gweithfeydd gwledig eraill, p’un ai ydym wedi ein cynnwys yn y broses gynhyrchu neu mewn gweithgareddau dyddiol eraill.

Felly, mae talu premiwm am lafur di-dâl yn dangos parch at waith merched sydd yn ymwneud â’r broses gyfan o gynhyrchu coffi, boed hwy’n gynhyrchwyr ei hunain, yn briod â chynhyrchydd, yn gymar, yn ferch neu yn unrhyw weithiwr arall.

Oes gennych chi neges i gefnogwr masnach deg yng Nghymru?

Y neges gan UCA SOPPEXCA, ac yn wir o Nicaragua, yw fod gwirioneddol angen i atgyfnerthu a chynyddu nifer y cwsmeriaid masnach deg gan fod ein cynhyrchwyr mewn argyfwng dwys eto oherwydd newid yn yr hinsawdd. Mae’r newid hwn yn yr hinsawdd wedi dylanwadu ar dwf ein cyd-weithfa. Rydw i am bwysleisio i’n holl gefnogwyr ym Mhrydain ein bod angen ei cefnogaeth yn fwy nag erioed. Mae Masnach Deg wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’n mudiad, ac wedi cael y fath effaith gadarnhaol – rydym wedi ehangu a gwella; ond yr ydym angen eich cefnogaeth o hyd. Rydym am i fwy o bobl ddod yn ymwybodol o Fasnach Deg a chefnogi’r syniad fel y gallwn barhau i gefnogi grwpiau o gynhyrchwyr bychan.



Leave a comment