¡nae pasaran!

Mae undebau yn parhau i gefnogi brwydrau rhyngwladol – rydym wedi ysgrifennu sawl gwaith am y cysylltiadau rhwng UNISON a UNE yn Nicaragua. Mae gan UNITE hefyd hanes o gefnogaeth parhaol i achosion rhyngwladol. Ond tan ddiwedd y 70au, roedd undebau llafur yn barod (cyn deddfau gwrth-undeb sydd dal i fodoli heddiw) i weithredu yn uniongyrchol i gefnogi achosion.

Un o’r enghrefftiau gorau o hyn oedd gweithwyr Rolls Royce yn East Kilbride. Gwrthododd yr undeb wasanaethau rhai o beiriannau awyrennau Hawker Hunter Awyrlu Chile. Rwan mae y rhain wedi derbyn gwobrau gan Lywodraeth bresennol Chile am eu cefnogaeth.

Does dim llawer yn gwybod am y stori erbyn hyn. Ond mae gwneuthwr ffilm, gyda’i wreiddiau yn Chile, yn ceisio codi arian i ddweud yr hanes mewn ffilm – ¡Nae Pasaran! Gallwch gyfrannu at yr ymdrech drwy roi i’w apêl Kickstarter – gweler fan hyn.

Yng Nghymru mae’r gefnogaeth yn parhau trwy El Sueño Existe, sy’n cofio Victor Jara. Yn diweddar mae Llys yn yr Unol Daliethau wedi derbyn achos am lofruddiaeth Victor Jara.  Mae Pedro Pablo Barrientos Núñez, sy’n ddinesydd yr UDA erbyn hyn, ac sy’n byw yn Florida, wedi cael ei gyhuddo o arteithio a lladd  Jara. Ddwy flynedd yn ôl gwnaeth animeiddiwraig Louise Emily Thomas ffilm fer am Victor Jara, gyda cherddoriaeth The Melodic.

Mae Gwyl Victor Jara ar y gweill unwaith eto, ar ddiwedd mis Gorffennaf. Mae’r Ymgyrch wedi bod yn cyd-weithio gyda’r trefnwyr, El Sueño Existe, i wahodd Llysgenhad Nicaragua, Guisell Morales Echaverry, i siarad yn yr wyl.

 

2015_poster_v4_150



Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s