el sueno existe ym machynlleth

Y penwythnos (Awst 29 – 31) nesaf bydd Gwyl Victor Jara, El Sueno Existe, yn cael ei chynnal ym Machynlleth. Cynhelir yr Wyl pob dwy flynedd. Yn ogystal a rhaglen gerddorol lawn  (gweler fan hyn), mae sesiwn wleidyddol ar y dydd Gwener (gweler fan hyn), a gweithdai yn ystod dydd Sadwrn. Ymysg y perfformwyr mae Dafydd Iwan. ‘Roedd ei gan Victor Jara yn gyfrifol am ledaenu’r neges am y coup i Gymry Cymraeg.

Eleni mae’r Wyl yn cofio 40 mlynedd ers y coup yn erbyn Llywodraeth Salvador Allende yn Chile. Un o’r siaradwyr yn ystod dydd Gwener yw Victor Figueroa Clark. Mae Victor wedi lansio ei lyfr am fywyd Allende – Salvador Allende, Revolutionary Democrat (Pluto,) – yn ystod y mis.

Mae Victor yn gyfarwydd i rai o fewn Ymgyrch Gefnogi Nicaragua fel gweithiwr undebau llafur ein cyd-ymgyrch NSC yn Llundain. Creodd Victor dipyn o drafodaeth ar ôl iddo ysgrifennu erthygl am Nicaragua yn y cylchgrawn Red Pepper (gweler fan hyn am 21st century Sandinismo). Gwelodd rhai’r erthygl fel un rhy gefnogol i Lywodraeth Daniel Ortega. Cafodd yr Ymgyrch wahoddiad gan Red Pepper i ateb erthygl Victor, ond roedden ni’n cytuno gyda llawer o’r pwyntiau ynddo.

Bydd yr Ymgyrch yn cymryd rhan mewn gweithdy yn ystod yr Wyl, am effaith ALBA ar bobl Nicaragua.

Mae mwy o fanylion am weithgareddau i gofio’r coup fan hyn. Mae digwyddiadau ar y gweill yn cynnwys ffilmiau yn  Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug a chyfarfod yn y Cynulliad yng Nghaerdydd.

78399_chile-40-years-on-visualising-democracy-and-dictatorship



Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s