trwbl ym mharadwys: ieithoedd lleiafrifol arfordir caribî nicaragua

Erthygl gan Sioned Haf, yn rhifyn newydd y Tafod, cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith. Mae’r 14eg dirprwyaeth o Gymru i Nicaragua yn mynd ym mis Chwefror 2014.

IMAG1180

Llun: Haf Elgar

O’n i ddim yn disgwyl clywed am unrhyw drwbl neu anghydfod mawr cymdeithasol yn y Caribî. Wedi’r cwbl, dyma le mae pobl yn eistedd yn yr haul trwy’r dydd, yn pendwmpian i gerddoriaeth reggae, yn wenau i gyd tra’n hyfed dŵr o goconyts a bwydo ar gyflenwad ddi-ddiwedd o fangos. Dyna beth wnaeth hysbysebion 80au ‘Lilt’ neud i fi feddwl beth bynnag. Ond, dim perffaith yw popeth Caribïaidd.

Bues i’n rhan o ddirprwyaeth i Nicaragua ym mis Chwefror eleni. Rhwng Costa Rica a Honduras yng Nghanolbarth America mae Nicaragua. Mae dirprwyaeth Ymgyrch Cefnogi Cymru-Nicaragua wedi bod yn ymweld gyda’r wlad ers dechrau’r 1980au. Pwrpas ymweliadau’r grŵp hwn dros y degawdau diwethaf yw i ddangos cefnogaeth i weledigaeth sosialaidd ymgyrchwyr gwleidyddol y wlad ac i gwrdd â grwpiau ymgyrchu, grwpiau hawliau a mentrau cymdeithasol a chydweithredol. Pwrpas ychwanegol y grŵp yw annog ymwelwyr newydd o Gymru i ddod ar y daith i ddeall hanes a chymdeithaseg y wlad – a’u hysbrydoli i ddatblygu syniadau gweithredol er budd cymdeithasol Cymru.

Roedd dirprwyaeth 2013 yn cynnwys sawl un person sy’n aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Roedd yna chwilfrydedd naturiol gan y criw i ddeall mwy ar hawliau diwylliannol ac ieithyddol Nicaragua – ac yn nwyrain y wlad, ar yr arfordir Caribî, bwydwyd y diddordeb hwn.

Mae yna sawl iaith frodorol yn ne-ddwyrain Nicaragua – ardal awtonomi de’r Atlantig – Region Autonoma del Atlantico Sur– sydd ar yr arfordir Caribî. Maent yn cynnwys Miskito, Rama, Sumo, Creole a hyd yn oed Saesneg. Er y nifer o ieithoedd ‘lleiafrifol’ hyn, Sbaeneg yw unig iaith swyddogol Nicaragua. Fel yng Nghymru, mae gan yr ardal hon elfen o hunanlywodraeth. Fel yng Nghymru,mae yna hefyd ymdeimlad cryf o hunaniaeth. Ers 1987, cafodd pobloedd brodorol ethnig a disgynyddion Affricanaidd y Caribî yn y rhan hon o Nicaragua eu cydnabod yn swyddogol, a cham wrth gam, mae’r rhanbarth unigryw yma yn ennill mwy a mwy o hawliau dros dir, addysg, ag iaith.

Yn y trefi ymwelon ni a hwy –  Bluefields a Pearl Lagoon – Creole, Sbaeneg a Miskito oedd yr ieithoedd roeddwn yn tueddu ei glywed. Mae pob un o’r ieithoedd gyda chysylltiadau hanesyddol  amrywiol fel gellir ei weld yn y darlun isod a welon ni ym mwyty bach y Queen Lobster oedd yn estyn mas i ganol y lagŵn.

Llunie Nicaragua 062

Yn Pearl Lagoon, cyfarfodon ni â Donna Hammond Williams, un o drefnwyr brwdfrydig grŵp datblygu cymdeithasol lleol. Gyda hi, dyma ni’n siarad gyda thair merch ifanc yn y gymuned am eu gwaith yn codi ymwybyddiaeth i gyfiawnder rhyw, cyfiawnder hinsawdd a’r argyfwng HIV ac AIDS yn y gymuned. Fe gawsom ni gipolwg ar ddeall sut oedd hi i fod yn ifanc ac yn byw ar yr arfordir Atlantig.

Roedd y tair yma a Donna yn amlwg falch o’u hunaniaeth Atlantig. Ond er hyn, datgelwyd bod yna stigma mawr i’r iaith Creole. Mae’n cael ei weld fel iaith israddol, ac yn un ni ddylid ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd swyddogol a pharchus fel yn yr eglwys leol. Roedd cwestiynau ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn sbarduno Donna a’r merched lleol i drafod a chwestiynu mwy ar y sefyllfa eu mamiaith nhw yn eu cymuned. Mae’n dangos sut gall siarad am y materion yma sbarduno syniadau, dealltwriaeth ehangach a gweledigaethau newydd. Mae yna ymgyrchoedd yn mynd yn eu blaen yma hefyd. Mae’r Brifysgol gymunedol lleol yn rhedeg cyrsiau amlieithog yn y ieithoedd lleiafrifol yma. Mae’r Bluefields Soundsystem yn galluogi pobl ifanc yr ardal i ganu yn Creole a Miskito a cyfansoddi cerddoriaeth gyda dylanwad etifeddiaeth reggae arni, ac mae cymdeithasau lleol eraill yn hybu iaith a diwylliant y rhan hon o’r wlad. Diweddon ni’r cyfarfod yn Pearl Lagoon gyda cân Creole gan y merched, a can Miskitu gan y Rector oedd wedi bod yn eistedd yn dawel bach a hapus ei fyd yng nghornel yr ystafell  trwy’r cyfarfod. I fod yn foneddigaidd…canon ni Fflat Huw Puw yn ôl (gyda phedwar harmoni gyda’r llaw! ).

Llunie Nicaragua 083

Mae’n amlwg bod materion iaith a diwylliannol yn treiddio trwy bob cymuned, ac mae’r ymweliad yma yn pwysleisio hynny. Pan bo chi’n rhan o ddiwylliant a’i lleiafrifwyd mewn un lle o’r byd, hawdd yw deall yr herion sydd yn gwynebu lleiafrifoedd eraill y glôb. Mae’r  ymgyrch ddiwylliannol-ieithyddol yn ymgyrch leol, cymunedol i bob un ardal – ydi. Ond mae’n ymgyrch rhyngwladol, ac yn rhywbeth sydd yn gyffredin i gymunedau niferus hyd a lle y byd. Felly, pan fyddwch yn ymgyrchu dros yr hawl i fyw yn eich iaith frodorol chi yng Nghymru y tro nesaf, clywch curiad y reggae, teimlwch wres y trofannau a cofiwch am gymunedau Creole, Miskito, Rama a Sumo Nicaragua yn cyd alw am union yr un hawl sylfaenol ddiwylliannol a ieithyddol yn y Caribî. Ffordd rhad o gadw’n dwym mewn Rali Cymdeithas yr Iaith yn ein hinsawdd tymhorol ni.



Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s