nicaragua: undod mewn amrywiaeth

Fis diwethaf roedd Haf Elgar yn rhan o ddirprwyaeth o ddeg a ymwelodd â Nicaragua am bythefnos. Yma mae’n son am ei phrofiadau yn rhanbarth Arfordir y Caribï (o Golwg 360 – gweler fan hyn am yr erthygl ar eu gwefan).

Ers ugain mlynedd mae dirprwyaethau o Gymru wedi bod yn ymweld a Nicaragua yng Nghanolbarth America fel rhan o Ymgyrch Cefnogi Nicaragua, i ddangos cefnogaeth i bobl y wlad wrth iddi ddatblygu, cefnogi prosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol a dysgu rhagor am wleidyddiaeth a diwylliant y wlad aml-ethnig, gymleth a beiddgar hon.

IMAG1060

Llun: Haf Elgar

Mae cyrraedd tref Bluefields fel camu i fyd gwahanol – hyd yn oed o’i gymharu a’r brifddinas Managua lle cyrhaeddon ni ychydig ddyddiad gynt. Y golau, lliwiau a gwres sy’n taro gynta wrth gamu oddi ar yr awyren bach simpsan a’n cludodd yno – lle lliwgar, llachar, clòs a hamddenol, yn llawn arogleon a sbwriel ar hyd y strydoedd ond y bobl yn hynod gyfeillgar gyda phob un yn ein cyfarch gyda ‘Buenos Dias’ neu ‘Mornin’ yn y Creole.

Llain hir ar hyd ochr dwyreiniol Nicaragua yw Arfordir y Caribï, ac er nad yw’r wlad yn fawr, mae’r fforest trofannol rhwng y gorllewin a’r dwyrain, a diffyg ffyrdd, wedi ei gadw’n rhanbarth ar wahân.

Mae’n frith o gymunedau aml-ethnig, gyda dylanwad Caribïaidd cryf a chymysgwch o bobloedd brodorol canolbarth America, disgynyddion Affricanaidd, a’r Mestizo sy’n fwyafrif poblogaeth Nicaragua. Dyma bobloedd – y Miskitu, Rama, Garifuna a Creole – gyda ieithoedd a thraddodiadau ei hunain o hyd.

Ac yn debyg i Gymru, mae hunaniath gref ei hun gan Arfordir y Caribï, a balchder o’u ymreolaeth, eu ieithoedd a’u diwylliant.

Dim ond ym 1987 y cydnabyddwyd pobloedd heblaw am y Mestizo gan gyfansoddiad Nicaragua, wedi canrif o goloneiddio, gorthrwm ac unbennaeth. Eglurodd Johnny Hodgson, ysgrifennydd gwleidyddol y blaid Sandinista ar yr arfordir, wrthom fel y trosglwyddwyd hawliau tir, addysg, ieithyddol ac adnoddau naturiol yn ôl i’r pobloedd brodorol yn raddol wedi hynny. A gosodwyd strwythurau cyfansoddiadol yn eu lle, gyda dau ranbarth gweinyddol yn ne a gogledd Arfordir y Caribï,  gyda seneddau rhanbarthol.

Mae yno hefyd dlodi enbyd, a diffyg datblygiad sylfaenol tu allan i’r trefi, gydag ymdrechion mawr i ledaenu isadeiledd trydan a dŵr, ac ynni solar yn cael ei ddefnyddio mewn rhai cymunedau pellennig.

IMAG1280

Llun: Haf Elgar

Ym mudiad hawliau dynol CEDEHCA cwrddon ni a Gorman, gwr ifanc sy’n rhedeg prosiectau ieuenctid. Dywedodd wrthom am y problemau sy’n gwynebu pobl ifanc; miloedd ohonynt heb dystystrifau geni oherwydd cost ac anllythrennedd. Heb swyddi ers degawdau a heb obaith ar y gorwel mae trais yn y cartref yn broblem fawr, yr arian mawr o smyglo cyffuriau yn denu a phuteindra’n cael ei orfodi ar rhai. Mae diniweidrwydd plentyndod yn fregus a’n dod i ben yn ifanc iawn yma.

Ond nid stori o anobaith na hunan-dosturi oedd gan Gorman. Gyda gwen ar ei wyneb a doethineb hen ddyn yn ei lygaid roedd e’n obeithiol am ddyfodol yr arfordir a’i phobl ifanc.

Gwelir ymreolaeth gwleidyddol ac ymreolaeth personol yn mynd law yn llaw, a bod rhaid datblygu hunan-hyder a rhoi cyfleon i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw chwarae rôl positif yn eu cymunedau ac yn natblygiad eu rhanbarth.

Ac mae yna obaith i bobl ifanc, fel welson ni yn stiwdio newydd ‘System Sain Bluefields’ (gweler fan hyn am fwy o wybodaeth).

Mae’r ysgol gerddoriaeth yma’n cynnig sgiliau i bobl difreintiedig ifanc yr ardal, rhai ohonynt wedi bod yn y carchar neu ar gyffuriau, i hyfforddi fel cerddorion a thechnegwyr cerddorol. Mae nhw’n cael cyfle i recordio a chynhyrchu caneuon ei hunain, gyda chymorth hen gerddorion traddodiadol yr ardal a chynhyrchwyr profiadol. Fel rhan o brosiect i ddiogelu traddodiadau Creole a brodorol y rhanbarth mae rhai o hen arwyr cerddorol yr ardal wedi cael eu recordio am y tro cyntaf yno, ac mae’n orsaf radio cymunedol.

Bu un o fentoriaid y prosiect, Rocco, yn byw yn Merthyr am gyfnod yn y 90au, gan chwarae miwsic reggae yn nhafarndau’r de, felly braf oedd cael ein cyfarch yn Gymraeg!

Ac yn anrheg fe gyflwynon ni ddwsin o gopiau o’r CD Cymraeg aml-gyfranog ‘Deuddeg’ i’r ysgol, i ddangos bywiogrwydd y sîn yn ein iaith brodorol ni, a chael cymharu’r seiniau tra gwahanol.

Mae sŵn Bluefields – y rhythmau reggae, yn fwy diweddar wedi’w gyfuno a rapio, yn llifo trwy‘r dref, a blas caribïaidd cnau coco a banana i’w groesawi ar ôl ffa a reis beunyddiol.

Wrth i ni adael Bluefields fe ddaeth y glaw trofannol yn sydyn, a’r dilyw yn fyddarol ar y toeau tun. Yn lle’r llwch a gwres daw’r glaw ac arogl pridd a bywyd newydd i’r hen dre, a’n gadael gyda gobaith fod Bluefields yn glasu.



Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s