cristnogaeth, sosialaeth, solidariaeth

Llunie Nicaragua 157

Tad Miguel D’Escoto – llun: Sioned Haf

Dilynodd llawer o bobl daith y ddirprwyaeth ar Trydar yn ystod y bythefnos. Sylw pellach oedd cyfweliad  un o’r ddirprwyaeth, Siân Howys, ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul diwethaf. Siaradodd am y cyfarfod gyda’r Tad Miguel D’Escoto, a rôl yr eglwys,yn  gadarnhaol ac yn negyddol, ar gymdeithas yn Nicaragua. Dyma’r cyfweliad:

Roedd y cyfarfod gyda’r Tad Miguelyn un o’r rhai mwya diddorol ar y daith. Siaradodd am ddiwinyddiaeth rhyddhad, a lle crefydd i ryddhau pobl yn lle eu gormesu, drwy drafod y Beibl a bywyd Iesu yng nghyd-destun eu bywydau eu hunain.

“Cafodd fy nghred ei seilio ar fy nealltwriaeth o Iesu. Pwy oedd Iesu? Gwrthryfelwr oedd O. Beth oedd y croesoeliad? Y gosb eithaf oedd hi, yn cael ei rhoi yn benodol ar gyfer gwrth-imperialwyr.”

“Credwn mai  un o weithredoedd  sylfaenol cenhedaeth dramor yw adborth. Mae cenhadu yn stryd ddwy-ffordd. Ydych chi’n mynd i rannu a gwrando? Beth yw eu sefyllfa? Deialog yw cenhadaeth, ac mae cenhadon yn hwyluso’r cyfnewid.”

Tad Miguel D’Escoto, Chwefror 19 2013

Ddoe ymddeolodd y Pab Benedict yn swyddogol, a gadawodd y Fatican. Fel y  Cardinal Joseph Ratzinger, gweithodd yn agos gyda’r  Pab John Paul II i danseilio a dinistrio diwinyddiaeth rhyddhad o fewn yr Eglwys Babyddol, gan gynnyws Nicaragua. Roedd y Tad Miguel D’Escoto a’r Tad Ernesto Cardenal yn cael eu targedau pan oeddent yn Weinidogion yn y Llywodraeth Sandinistaidd yn yr 80au. Ddoe, gwnaeth Amy Goodman gyfweliad gyda Matthew Fox. Mae Fox yn gyn-offeiriad yn yr Eglwys Babyddol cyn iddo golli ei hawl i weini fel offeiriad gan y Cardinal Ratzinger am bregethu diwinyddiaeth rhyddhad. Yn y cyfweliad mae’n siarad am suty  datblygodd diwinyddiaeth rhyddhad, a beth oedd ymateb y sefydliad ceidwadol o fewn yr egwlys iddo.

http://www.democracynow.org/2013/2/28/fascism_in_the_church_ex_priest?autostart=true

 



Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s