y gwananiaeth rhwng solidariaeth ac elusen

Mae’r Ymgyrch yn casglu ei daliad olaf yn ein cefnogaeth i Los Quinchos (gweler yma), sy’n gweithio gyda phlant La Chureca. Dyma ein neges diweddar yr apel:

Gwnewch rhywbeth gwahanol y Dolig hon, a helpu plant sy’n byd yn amodau erchyll.

Un mis i godi £1,400.

http://uk.virginmoneygiving.com/team/walesnicaragua

Apêl Nadolig er mwyn Plant Nicaragua – Ymgyrch Gefnogi Nicaragua Cymru

Mae eich cyfraniadau, beth bynnag eu maint, yn gallu gwneud gwahaniaeth i rai o’r plant tlotaf yn y byd.

Oherwydd eich haelioni, llwyddodd yr Ymgyrch i godi tua £24,000 dros y bedair blynedd ddiwethaf i gefnogi Canolfan Los Quichos yn nhomen sbwriel La Chureca. ‘Rydym yn lawnsio apêl Dolig gan fod rhaid inni godi £1,400 erbyn diwedd y flwyddyn i gwblhau ein cefnogaeth. Bydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei anfon i’r Ganolfan hefyd.

Ydych chi’n gallu sicrhau’r llwyddiant trwy gyfrannu ar-lein ?:

http://uk.virginmoneygiving.com/team/walesnicaragua

Neu os gwell gennych anfon siec, anfonwch hi ati:

Ymgyrch Gefnogi Nicaragua Cymru”, Tŷ Iorwerth, Ffordd y Sir, Penygroes, Gwynedd LL54 6ES.

Diolch! Gracias!

Yn ei cyflwyniad i dathliad 25 mlynedd yr Ymgyrch, dyfynodd David McKnight Eduardo Galeano Hughes

ar y gwahaniaeth rhwng cefnogi a rhoi i elusennau:

“I don’t believe in charity. I believe in solidarity. Charity is so vertical. It goes from the top to the bottom. Solidarity is horizontal. It respects the other person. I have a lot to learn from other people.”

Yn ein cylchlythyr nesaf, mae aelod arall yr Ymgyrch yn trafod natur solidariaeth, ar effaith arni o weithio gyda phobl yn Nicaragua:

Mari Wyn a Chwyldro Nicaragua

Petai dylanwad cymdeithas ar unigolion, a dylanwad unigolion ar y gymdeithas honno yn cael ei gofnodi fel cyfrif banc, byddwn mewn dyled aruthrol. Yn arbennig lle mae Nicaragua yn y cwestiwn.

Pan oeddwn yn ysgrifennu’r diolchiadau i’w cynnwys yn nhu blaen fy nofel ‘Mari Wyn’,     diolchais i’m rheini oedd wedi fy helpu’n uniongyrchol gyda’r broses sgwennu. Dim ond wedyn, ar ôl imi holi Ben os oedd modd sgwennu erthygl am y llyfr i gylchlythyr yr ymgyrch (gan y byddwn yn meddwl y buasech chi fel aelodau’r ymgyrch gyda diddordeb ynddo!), wnes i sylweddoli faint oeddwn angen diolch i bobl Nicaragua am eu cyfraniad nhw tuag at y broses o ffurfio syniadau ar gyfer y llyfr hefyd. Arweiniodd hyn i mi feddwl am faint o ddylanwad gafodd Nicaragua ar fy mywyd yn gyffredinol ac ar yr holl bethau dwi wedi ac yn eu gwneud.

Parodd yno imi sylweddoli pa mor anodd mae bywyd yn gallu bod. Yn enwedig os ydy rhywun yn byw mewn cynefin ymylol (sy’n cael ei wthio mwy mwy tuag at yr ymylon gan gynhesu byd eang, a phrinder adnoddau) dan system economaidd sy’n atal i rywun warchod ac elwa, yng ngwir ystyr y gair, y cynefin hwnnw. Parodd imi sylweddoli bod fy null o fyw yng Nghymru a’r systemau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol mae hynny’n parhau, yn atal fy ffrindiau yn Nicaragua rhag byw, mewn rhai achosion, heb sôn am fyw’n gyfforddus. Parodd imi sylweddoli nad oedd gosod ambell i fwlb ynni isel, er yn beth pwysig i’w wneud, yn ddigon. Parodd imi sylweddoli, os oeddwn am alw fy hun yn ffrind i’r bobl ‘ma, fod rhaid imi wneud popeth o fewn fy ngallu, fel y maen nhw eu hunain yn ei wneud, er mor anodd yw eu bywydau bob dydd, i newid y byd. Parodd imi sylweddoli, os oeddwn am wneud hynny byddwn yn gorfod derbyn fod fy mywyd fy hun, a bywydau eraill o fewn fy nghymdeithas, yn gorfod bod yn llai cyfforddus.

Ar ochr arall y geiniog, wedi byw yno, sylweddolais y pŵer sydd gan bobl gyffredin o bob math i newid y byd wrth gydweithio i oroesi a ffynnu. Fedrai’m disgrifio’r wefr o ryddid a gefais wrth eistedd ar do bws am 5 o’r gloch y bore, yn hyrtlan trwy cefn gwlad, yn gweiddi canu ‘Juntos unidos jamas seran vencidos’ ar y ffordd i ddathliadau pen-blwydd y chwyldro’n 19 ac wedyn yn 20. Yr un wefr a deimlais wrth fynychu protestiadau anferthol Jiwbilî 2000 yn Llundain a’r G8 yn Genoa, yn ogystal â phrotestiadau llai o amgylch Cymru a Lloegr. Dim bod canlyniadau ymgyrch y chwyldro yn Nicaragua’n berffaith, na chwaith yr ymgyrchoedd dwi wedi bod yn rhan ohonyn nhw. Does ‘na’r un newid cymdeithasol yn berffaith. Ond mae’r gobaith sy’n ynghlwm â’r broses o ymgyrchu a cheisio newid cymdeithas yr un mor bwysig â’r canlyniadau yn fy marn i. Oherwydd y gobaith hwnnw sy’n ein galluogi ni i weledigaethu realiti gwell, i fentro dychmygu ei fod yn bosib.

A ddaw a mi at y trydydd peth, ac efallai’r peth pwysicaf, wnaeth bobl Nicaragua ei ddysgu imi. Unwaith mae rhywun wedi teimlo’r gobaith hwnnw ac wedi cael cip ar ddyfodol gwell, ni ddaw’r chwyldro byth i ben. Mae ‘na fodd ei weithredu bob dydd, a thrwy bob gweithred a wna rhywun. Mae’r gweithredu a gaiff ei wireddu ledled y wlad hyd heddiw’n dyst i hynny. Dydy chwyldro ddim yn rhestr o bethau i gyflawni fel y gall rhywun ei arfarnu a datgan ei lwyddiant neu beidio. Mae’n gylchdro o brosesau cymdeithasol, gwleidyddol, emosiynol, ysbrydol a ffisegol. Prosesau sy’n cyfrannu tuag at les, yn ystyr ehangaf y gair, y ddaear a’i thrigolion. Nid cael gwared o rywbeth drwg mo’r ‘chwyldro’ ond adeiladu rhywbeth da. Dim bod gwneud hynny’n hawdd. Mae darllen ‘The Country Under My Skin’ gan Gioconda Belli a oedd yn rhan o’r chwyldro yn y 70au yn fy atgoffa o eni babi (penderfyniad, cadernid, nerth a dyfalbarhad yw’r geiriau ddaw i’r meddwl, yn ogystal â synnwyr digrifwch wrth gwrs!). Ond mae o’n bosib.

Wrth sgwennu hyn rŵan dwi’n sylweddoli na ddylwn i wedi dim ond diolch i bobl Nicaragua yn y llyfr ond ei gyflwyno iddynt. Caiff y nofel ei chrynhoi ar gefn y llyfr fel a ganlyn: ‘Hanes hogan fach yn dod i ddeall y byd a’i bethau yw hon. Ond mae taith Mari Wyn yn cynrychioli llawer mwy na hynny hefyd. Wrth gymryd cip ar ddyfodol posib, cawn archwilio’r modd rydyn ni’n dewis byw ein bywydau heddiw, a gofyn a yw’r dewisiadau a wnawn ni yn rhai doeth…’. Mae wedi dod yn amlwg imi fod taith Mari yn y nofel yn adlewyrchiad o’r daith a fues arni wrth fyw a gweithio yn Nicaragua. Mae’r profiad gefais i yno nid yn unig wedi cyfrannu tuag at ffurfio syniadau ar gyfer y nofel, mae wedi cyfrannu’n fawr iawn tuag at y ffordd dwi’n gweld y byd, a’r ffordd dwi’n ceisio byw fy mywyd.

Dwi’n lwcus iawn felly, nad yw dylanwadau ar unigolion gan gymdeithas a dylanwadau unigolion ar y gymdeithas honno yn cael eu cofnodi fel cyfrif banc. Onid dyna sydd mor hyfryd am solidariaeth (sef sefyll ochr yn ochr â’n brodyr a chwiorydd wrth weithio tuag at well byd), y ffaith nad oes modd cofnodi’r trosglwyddiad o ysbrydoliaeth rhwng un person a’r llall a’r gweithredu caiff ei wireddu yn sgil hynny. Hyd yn oed petai hynny’n bosib, fyddai’r sỳms byth yn adio’n gywir, achos yn yr ystod yma mae’r cyfanwaith yn fwy na chyfanswm y rhannau. Y ffaith fod, fel y dywed Taid wrth Mari Wyn yn y nofel, ‘O’r holl rymoedd sydd yn gwneud gwell byd, does ‘na’r un mor anhepgorol, yr un mor rymus â gobaith.’ Y ffaith fod, fel y gweiddais o do bws unwaith, ‘Juntos unidos jamas seran vencidos!’.

Cyhoeddwyd Mari Wyn gan Y Lolfa, mae modd ei brynu o’ch siop lyfrau Cymraeg lleol neu os nad oes un yn agos, dros y we.



Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s