Pants i Mr Urdd

Hei, Mr Urdd

Efo’th ddannedd du a gwyrdd

Mae’r Urdd wedi cymryd y ceiniog corfforaethol, y tro hwn gan McDonalds a Coca-Cola. Os mae’n digon da ar gyfer y gemau Olympaidd, mae’n digon da ar gyfer yr Urdd.

Wel, efallai mae sawl problem bach. Faint o lwyaid o siwgr mewn can o Coke? Wyth. Felly rydym yn gallu edrych ymlaen i blant bach Cymru yn ennill llawer o wobryon athletaidd, ond yn anffodus tra gwisgo dannedd gosod.

Beth am y cysylltiad enwog rhwng yr Urdd ac achosion rhyngwladol? Heb os, mae llawer o enghrefftiau lle mae ffatri Coca Cola wedi agor mewn cymuned tlawd, ac wedi achosi problemau enbyd mynediad dwr ar gyfer y boblogaeth lleol (sydd, fel arfer, ddim yn gallu fforddio ‘the world’s favourite drink’). Gweler yma am un enghraifft o America Ladin, yn Chiapas.

Ond os mae Chiapas yn digon drwg, beth am gysylltiad Coca Cola gyda phobl a lladdwyd undebwyr llafur yng Ngholombia (gweler yma i ddarllen y honiadau)? Mae rhai ohonom yn gallu cofio jingl enwog Coca Cola, I’d like to teach the world to sing. Rhywun a dysgodd (ond efallai nid dan dylanwad y corfforaeth) oedd David Rovics, anarchydd o’r Unol Dalieithau. Am flas arall y Cola, gweler ei gan ‘Coke is the drink of the death squads’.

Oedd angen i Mr Urdd derbyn $ Coca Cola? Un eicon Cymreig arall a wrthododd oedd Super Furry Animals, 1.8 miliwn ohonynt, ar ol mynd i Colombia a siarad a gweithwyr yno.

Efa, rhowch yr arian yn ol!



Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s