taith gerdded traws gyfandirol er mwyn la chureca
Posted: May 28, 2011 Filed under: Uncategorized | Tags: la chureca, los quinchos, nicaragua cymru, taith gerdded noddedig Leave a commentBydd yr Ymgyrch yn cynnal taith gerdded noddedig i godi arian i Los Quinchos, sy’n gweithio gyda plant la Chureca. Digwyddir y taith ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 2il, yn dechrau ym Mlaenau Ffestiniog am 9.30. Cynhelir y taith ar ddau cyfandir am y tro cyntaf!
Bydd y criw yng Nghymru yn cerdded trwy Cwm Prysor, a dringo yr Arenig.
Ar yr hyn pryd, bydd aelod o’r Ymgyrch, David McKnight, yn dringo llosgmynydd, Volcan Maderas, ar Isla de Ometepe.
Yn ystod y 3 mlynedd diwethaf, mae’r Ymgyrch wedi codi bron a £20,000 ar gyfer gwaith los Quinchos. Rydym yn ceisio codi £400 y mis rhwng yn awr a diwedd y flwyddyn, i barhau gyda ein cefnogaeth.
Mae’n bosibl i gymryd rhan yn y taith. Gweler y ffurflen nawdd am ragor o fanylion. Neu ydych chi’n gallu cyfrannu ar lein, fan hyn.